Newyddion

partnerunderlineyellow

18 Rhagfyr 2020

Diweddariad Mawrth - Rhagfyr

Arts Care Gofal Celf

Y breswylfa Duets yn Ysgol Gynradd Gelliswick yn Aberdaugleddau oedd y breswylfa olaf i Ballet Cymru ei harwain ym mis Mawrth, ddim ond pedwar diwrnod cyn i'r cyfyngiadau symud ddod i rym. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi cadw mewn cysylltiad â'r ysgol a hefyd â'n partneriaid a'n hymarferwyr. Aethom ati i arwain sesiwn hyfforddi ar-lein dros Zoom er mwyn arwain yr ymarferwyr trwy Becyn Cymorth Duets. Dychwelodd Ballet Cymru i'r ysgol am dridiau ym mis Hydref er mwyn parhau i gyflwyno'r hyfforddiant Duets gyda dau ymarferydd, a hefyd i arwain y broses ddethol gyda 144 o ddisgyblion, a chafodd 31 o blant eu dewis a'u gwahodd i ymuno â'r rhaglen Duets. Dechreuasant ar eu hyfforddiant dawns dwy flynedd yn Ysgol Gynradd Gelliswick ym mis Hydref.

Dawns i Bawb

Yn ystod y cyfyngiadau symud, parhaodd Ballet Cymru i gynnal sgyrsiau â Dawns i Bawb ac Ysgol Gynradd Llanllyfni. Aethom ati i ddarparu sesiwn hyfforddi gyda phedwar ymarferydd trwy Zoom, a'u galluogodd i ofyn rhagor o gwestiynau a dysgu rhagor am gynnwys a nodau'r rhaglen Duets. Ym mis Hydref, dychwelom i Ysgol Gynradd Llanllyfni i ddarparu rhagor o hyfforddiant ac arwain y broses ddethol ar gyfer yr Ysgolorion Duets. Gwahoddwyd 33 o blant i ymuno â Rhaglen Ysgoloriaeth Duets, a dechreuodd y sesiynau wythnosol ar gyfer ballet a dawns stryd ddechrau mis Tachwedd.

Pontio/Dawns i Bawb

Pontio yw ein theatr partner yng Ngogledd-orllewin Cymru a, chyn y cyfyngiadau symud, buom yn cydweithio'n agos ar y preswylfeydd Duets yn Ysgol Gynradd Llanllyfni. Yn ystod y cyfyngiadau symud, aeth dawnswyr proffesiynol Ballet Cymru ati i greu ffilm ar gyfer y myfyrwyr Blas, wedi'i seilio ar y prosiect dawns a chelf, Duets, a gyflawnir gan Ballet Cymru a Carl Chapple, yr Artist Preswyl.

Impelo

Roedd y staff allweddol naill ai wedi'u rhoi ar ffyrlo neu ar gyfnod mamolaeth, felly cyfyng oedd y cysylltiad ag Impelo. At hynny, mae yna Bennaeth newydd yn yr ysgol lle roeddem yn gobeithio arwain y rhaglen Duets. Wedi i dîm llawn Impelo ddychwelyd, roeddem yn gallu parhau â'r cynlluniau ar gyfer Duets. Roedd dau ymarferydd newydd wedi ymuno ag Impelo, ac mae gan y ddau ohonynt dechneg ballet a chyfoes gadarn; roedd y ddau yn awyddus i fod yn ymarferwyr arweiniol ar y Rhaglen Duets. Aeth Ballet Cymru ati i ddarparu dau ddiwrnod o hyfforddiant yn yr ysgol newydd, Ysgol Gynradd Cribarth, yn Aber-craf, yn ogystal â'r broses ddethol. Cafodd 27 o blant eu dewis ar gyfer Duets, a dechreuodd eu sesiynau wythnosol ym mis Tachwedd.

Jukebox Collective

Mae'r bartneriaeth â Jukebox Collective wedi bod yn weithgar iawn yn ystod y cyfyngiadau symud a, gyda'n gilydd, roeddem wedi arwain 12 o sesiynau Zoom byw, bob wythnos, gyda'r Ysgolorion Duets yn Ysgol Gynradd Moorlands. Roedd y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd o gymorth enfawr yn ystod y cyfod hwn, ac roedd yn bresennol ym mhob sesiwn. Rydym 'nawn yn ôl yn yr ysgol, er yn y buarth chwarae, ond roeddem yn teimlo ei bod mor bwysig gweld yr Ysgolorion wyneb yn wyneb eto, a chyflwyno sesiwn hwyliog ac egnïol i ddechrau ar eu hail flwyddyn o hyfforddiant. Mae'r Ysgolorion wedi creu darn ar gyfer ffilm, a byddwn yn gwahodd cwmni ffilmiau i weithio gyda ni tuag at ddiwedd y tymor.

NEW Dance

Roedd y ddau ymarferydd wedi gweithio'n galed yn ystod y cyfyngiadau symud, yn cynllunio ac yn cyflawni sesiynau ballet a capoeira creadigol, dros Zoom, ar gyfer yr Ysgolorion Duets.

Roedd athrawon o Ysgol Tŷ Ffynnon yn bresennol yn y sesiynau bob wythnos, ac roedd y plant wedi mwynhau gweld eu hathrawon yn ymuno â rhai o'r gemau ar Zoom. Rydym 'nawn yn ôl yn yr ysgol ac yn addysgu yn y neuadd, gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol, ac ati, ar waith. Rydym wrth ein bodd o gael bod yn ôl, a chafodd ymarferwyr NEW Dance amser hyfryd yn dawnsio gyda'r plant eto. Mae'r ysgolorion hefyd yn gweithio ar greu ffilm i gipio'r gwaith gwych y maent wedi'i gyflawni y tymor hwn.

Duets Legacy

Roeddem wedi cynnal sesiynau Zoom wythnosol gyda'r myfyrwyr Duets Legacy am 12 wythnos. Roedd y tymor yn llawn, gydag athrawon gwadd a dawnswyr proffesiynol Ballet Cymru yn arwain y dosbarthiadau. Roedd y niferoedd yn dda i ddechrau, ond wrth i'r wythnosau fynd heibio roeddem wedi diweddu gyda grŵp o bump. Ers i'r ysgolion ailagor, mae pob un o'r Ysgolorion Duets wedi symud ymlaen i'r ysgol uwchradd, ac wedi gwasgaru ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Roedd hyn wir wedi effeithio ar y sesiwn Legacy. Nid yn unig yr oedd gan y plant ysgol, ffrindiau ac athrawon newydd i ymdopi â nhw ond, o ystyried COVID-19 hefyd, roedd yn anochel y byddai'r sesiwn Duets Lecgacy yn dioddef. Gobeithiwn eu gweld eto yn y dyfodol.

Ffilm Duets

Bu'r ddwy set o Ysgolorion Duets o Ysgol Tŷ Ffynnon ac Ysgol Gynradd Moorland, ochr yn ochr â Myfyrwyr rhaglen Duets Legacy, yn cydweithio i greu ffilm wedi'i hysbrydoli gan gynhyrchiad Ballet Cymru o A Child’s Christmas in Wales. Cafodd hon ei datblygu dros y sesiynau Zoom, ac aeth cwmni Red Beetle Film ati i olygu'r gwaith a gyflawnwyd a chreu'r ffilm hyfryd Duets – Dancing Through Time y gall y plant ei chadw am byth.

Hyfforddiant Ychwanegol

Yn ganlyniad uniongyrchol i'r rhaglen fentora a ddarparwyd gan Ballet Cymru a Jukebox Collective y llynedd, mae myfyriwr newydd o'r sefydliad wedi ymuno â ni am yr ail flwyddyn. Rydym 'nawr yn ystyried y ffordd hon o weithio yn fodel i'w gynnig i'r Sefydliadau Dawns Cymunedol. Mae Duets yn rhaglen mor unigryw, a gall ymarferwyr dawns newydd, ifanc, ddysgu o hyn. Mae Ballet Cymru hefyd yn sylweddoli bod angen i ni edrych ar ein gweithlu ein hunain a datblygu tîm i gyflwyno'r rhaglen Duets, ac felly rydym yn trefnu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer ymarferwyr yn ardal Casnewydd a Chaerdydd.

Rhaglen Hyfforddi Cymru Gyfan

Yn ystod y cyfyngiadau symud, parhaodd Ballet Cymru i fynychu cyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd Hyfforddiant Cymru Gyfan, a gofynnwyd i ni drefnu sesiwn rhannu sgiliau a oedd yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Felly, pa well rhaglen i'w defnyddio fel esiampl na Duets? Aethom ati i gynnal y sesiwn, ac ymunodd 19 o ymarferwyr o bob cwr o Gymru â ni, trwy Zoom, i brofi'r arddulliau dawnsio gwahanol a gyflawnwyd gan rai o aelodau tîm Duets, ac i ddysgu rhagor am y rhaglen a'n gwaith gyda phlant a phobl ifanc. I ni, mae hyn yn gyfle perffaith i gwrdd ag ymarferwyr newydd ledled Cymru, a gallai arwain at ragor o gyfleoedd hyfforddi wrth i'r rhaglen ddatblygu.

image

image

image

image