Newyddion

partnerunderlineyellow

6 Tachwedd 2021

Perfformiad codi'r llen Ysgol Gynradd Somerton ddydd Sadwrn 6 Tachwedd

“Ni fyddwn erioed wedi dychmygu y byddwn yn dod i’r lle hwn” – disgybl Duets yn Somerton.

 

“Roeddwn wedi meddwl na fyddwn fyth yn gallu gwneud ballet, a chredaf mai dyma’r unig gyfle i ddysgu ballet” – disgybl Duets yn Somerton.

 

Roedd disgyblion Duets Ysgol Gynradd Somerton wedi ymddangos ar lwyfan Glan yr Afon ar gyfer eu perfformiad dawns byw cyntaf erioed o ddarn agoriadol cyn GiselleBallet Cymru. Roedd y darn yn cyfuno technegau balleta chyfoes, ac roedd y prif ffocws ar greadigrwydd y plant wrth iddynt ddangos eu cymeriadau a'u cyfeillgarwch. Mae'r thema'n tynnu ar berthnasoedd agos y pentrefwyr yn addasiad Ballet Cymru o Giselle,a'r modd y mae'r cymeriadau hyn yn trawsnewid i fod yn sombïaid yn yr ail act.

 

“Roeddwn mor hapus” – disgybl Duets yn Somerton.

 

“Mae'n fy ngwneud mor falch ohonof fy hun” – disgybl Duets yn Somerton.

 

“Gwnaeth i mi deimlo bod gan bobl ofal” – disgybl Duets yn Somerton.

 

Roedd y disgyblion yn llenwi llwyfan enfawr Theatr Glan yr Afon, a chawsant don enfawr o gymeradwyaeth gan gynulleidfa lawn. Yn dilyn eu perfformiad, aethant i eistedd yn yr awditoriwm, lle cawsant gymeradwyaeth arall a lle amlygwyd yr edmygedd a roddir i artistiaid proffesiynol. Roeddent yn hollol lonydd wrth wylio balletGiselle,ac mae'r holl brofiad wedi rhoi hwb gwirioneddol i'w hyder, eu hymrwymiad a'u hysbrydoliaeth i weithio'n galetach fyth yn eu sesiynau dawns.

 

“Fy hoff ran oedd bod pawb yn llawn dychryn ar y dechrau, ac yna, ar y diwedd, roeddem yn ddewr, ac roeddem wedi gwneud y cyfan, a neb wedi cwyno” – disgybl Duets yn Somerton.

 

“Roeddwn yn teimlo mor gyffrous fel y gallwn deimlo fy nghalon yn curo’n gyflym, ac roeddwn wir yn teimlo bod arnaf eisiau gwneud hyn eto” – disgybl Duets yn Somerton.

 

“Dywedodd mam wrthyf nad yw fy nhad byth yn crio mewn sioeau nac ar adegau anhygoel. Ond wyddoch chi beth? Er mawr syndod i mi, dywedodd ei fod wedi crio yn ystod y darn am ei fod mor falch ohonof” – disgybl Duets yn Somerton.

 

image

image

image

image

image

image

image

image

image

image