Arts Care

Gofal Celf

partnerunderlinecyan

Partneriaid:
Ysgol Gynradd Gelliswick a Theatr y Torch

Roedd Ballet Cymru wedi arwain preswylfa yn Ysgol Gynradd Gelliswick, Aberdaugleddau, ym mis Mehefin 2019. Ymunodd ymarferwyr dawns Arts Care Gofal Celf â thîm addysg Ballet Cymru i weithio gyda 122 o blant, sef 60 o fechgyn a 62 o ferched; nid oedd 103 o’r plant hyn erioed wedi cymryd rhan mewn dosbarth bale o’r blaen.

Trwy drafodaethau â Ballet Cymru ac Arts Care Gofal Celf, nodwyd bod Aberdaugleddau yn ardal a oedd heb fawr ddim gweithgarwch dawnsio, a byddai rhaglen Duets yn rhoi llawer iawn o gymorth i’r broses o ddatblygu darpariaeth ddawns o safon, ac yn llenwi’r bwlch yn rhaglen Arts Care Gofal Celf.

‘Mae ACGC yn edrych ymlaen at weithio gyda Ballet Cymru a sefydliadau partner eraill ar y Rhaglen Duets. Credwn y bydd y rhaglen yn fuddiol o ran codi proffil ACGC fel darparwr cyfleoedd dawnsio sy’n hygyrch ac o ansawdd uchel, gan ein galluogi ar yr un pryd i weithio mewn ysgol sydd â lefel uchel o broblemau economaidd-gymdeithasol.

Bydd y rhaglen yn caniatáu i ni weithio gyda chyfranogwyr nad ydynt yn cyrchu ein prosiectau dawns cyfredol, a bydd yn ein galluogi i weithio gyda grŵp o blant dros gyfnod estynedig, gan gyflwyno elfennau bale na fyddent, o bosibl, yn cael eu defnyddio fel arfer. Bydd bod yn rhan o’r rhaglen genedlaethol yn rhoi cyfle i ni rannu profiadau ac arbenigedd â sefydliadau cymheiriaid ac archwilio meysydd arfer gorau ym myd dawns gymunedol.

Ni all hyn ond bod o fudd i wybodaeth a hyder ein hartistiaid dawns. O ganlyniad i’r prosiect, hoffem weld cynnydd yn nifer y bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni dawns cymunedol, yn ogystal â mwy o ddiddordeb gan ysgolion mewn darparu rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion ddawnsio.’

Chris Ryan, Director ACGC

Ysgol Gynradd Gelliswick, Aberdaugleddau

quotesquigglecyan

Mae Ysgol Gynradd Gelliswick wedi’i lleoli mewn ardal ddifreintiedig, ac yn cael ei hamgylchynu ag ystadau tai sy’n gyfuniad o dai cymdeithasol, cymdeithasau tai a chartrefi preifat. Yr ysgol yw’r cyflogwr mwyaf yn yr ardal. Mae 559 o blant yn mynychu Gelliswick, ac mae 25% ohonynt yn cael prydau ysgol am ddim.

Mae Gelliswick yn cyfateb yn berffaith i’r meini prawf ar gyfer Duets, a gan fod Theatr y Torch yn agos i’r ysgol, mae hyn yn galluogi Ballet Cymru, Arts Care Gofal Celf ac Ysgol Gynradd Gelliswick i feithrin perthynas â’r Theatr nid yn unig pan fo Ballet Cymru ar daith yno, ond yn barhaus trwy gydol oes y rhaglen Duets ac ymlaen at y dyfodol.

Bydd Ballet Cymru yn dychwelyd i Ysgol Gynradd Gelliswick ym mis Mawrth, i arwain ail breswylfa, ac rydym yn gyffrous iawn ynghylch cynllunio’r Rhaglen Ysgoloriaeth yno o fis Medi 2020 ymlaen.

artscare1

arrowdown

Astudiaeth Achos

Ail Breswylfa yn Ysgol Gynradd Gelliswick
partnerunderlinecyan1

Dychwelodd Ballet Cymru i Ysgol Gynradd Gelliswick ym mis Mawrth 2020. Buom yn gweithio gyda’r holl ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 a 4, a hefyd gyda’r dosbarth meithrin. Roedd yr ysgol mor groesawgar, ac roedd yn hyfryd gweld y plant unwaith eto.

Ymunodd Emily a Freya â ni, sy’n ymarferwyr dawns gydag Arts Care Gofal Celf. Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i’r ysgol ar gyfer proses hyfforddi a dethol Duets er mwyn i’r Rhaglen Ysgoloriaeth ddechrau.

artscare4artscare2

artscare3