Dawns i Bawb

partnerunderlineblue

“Cred Dawns i Bawb fod y rhaglen Duets wedi agor y drws i nifer o gyfleoedd newydd posibl ar ein cyfer ac o ran yr hyn y gallwn ei gynnig yn rhan o’n darpariaeth ddawns. Rydym yn gyffrous iawn ein bod wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r profiad, ac o allu parhau i gydweithio â Ballet Cymru. Bydd y cymorth posibl y gall Ballet Cymru ei gynnig i ni i greu gwaddol o’r profiadau hyn yn amhrisiadwy, yn enwedig gan ein bod yn dîm mor fach, gyda mynediad cyfyngedig at adnoddau megis prosiectau preswyl a phrofiadau a hyfforddiant proffesiynol.”

Catherine Young

Cyfarwyddwr, Dawns i Bawb

quotesquiggleblue

Partneriaid:
Ysgol Gynradd Llanllyfni a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio

Perfformiad codi’r llen gan ysgol gynradd llanllyfni a choleg menai yng nghanolfan celfyddydau ac arloesi pontio

Roedd Ballet Cymru wedi arwain preswylfa tri diwrnod yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, lle buont yn gweithio gyda 40 o blant o flynyddoedd 3, 4, 5 a 6, ac wedi treulio diwrnod yng Ngholeg Menai, yn gweithio gyda 15 o fyfyrwyr y Celfyddydau Perfformio, gan fynd ati i greu darn yn seiliedig ar ddibyniaeth pobl ar dechnoleg fythol ddatblygol ein byd a’r cydbwysedd rhwng peiriannau a natur. Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn hwn o’r themâu sydd yn Wired to the Moongan Charlotte Edmonds. Roedd y plant wedi datblygu’r symudiadau trwy dasgau creadigol, a hynny ochr yn ochr â dawnswyr proffesiynol Ballet Cymru.

“Am foment anhygoel ac arbennig – gweld y ffordd y mae’r plant hyn, nad oeddent ar y cyfan wedi gweld dawnsiwr bale bum niwrnod yn ôl, yn gweithio gyda dawnswyr proffesiynol yn y ffordd fwyaf creadigol. Rwyf mor falch ein bod yn rhan o’r prosiect hwn. Mae’n bopeth y dylai prosiect dawns fod. Diolch yn fawr iawn.”

Catherine Young

Yn dilyn ein hymarfer olaf yn yr ysgol, roeddem wedi gwahodd Dosbarth y Babanod i’r neuadd i wylio’r darn, ac yna cafodd Ballet Cymru ei ddiddanu gan berfformiad hyfryd gan gôr y plant.

Roedd y perfformiad codi’r llen yn defnyddio pob un o dair lefel y cyntedd yn Pontio. Nid oedd 25 o’r 40 o blant erioed wedi ymweld â Pontio o’r blaen, a daeth 36 o aelodau eu teuluoedd i weld y perfformiad, gyda nifer ohonynt yn ymweld â Pontio ac yn gwylio bale am y tro cyntaf erioed.

dawnsipawb1

“Yr wythnos hon yw’r wythnos orau, o bell ffordd, i mi ei chael yn ystod fy saith mlynedd ym maes addysgu. Roedd y cyswllt a’r sylw a gafodd y plant trwy gydol yr wythnos yn anhygoel. Mae pob un ohonynt wedi dysgu cymaint. Mae hyn wedi cael dylanwad enfawr ar eu hunanhyder, ac rwy’n sicr y byddwn yn eu gweld yn datblygu ymhellach yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i’r profiad hwn. Roedd y naws wedi newid ymhen ychydig funudau wedi i Louise, Alex, Robbie, Beth ac Izzy gyrraedd, a diflannodd unrhyw bryderon ynghylch yr wythnos cyn gynted ag y dechreuodd y gweithgaredd cyntaf. Roedd y cwmni wedi ennill y disgyblion i gyd drosodd ac wedi’u cyfareddu â’u talentau. Roedd perfformio gyda’r cwmni cyfan yn anrhydedd enfawr, ac roedd y plant wedi mwynhau gwylio ‘eu ffrindiau’ yn perfformio ar y llwyfan yn Pontio. Ddydd Llun, byddwn yn brysur yn ymarfer at ein gwasanaeth Nadolig, ac rwy’n sicr y bydd yr ysgol yn teimlo’n wahanol i’r ffordd yr oedd yn teimlo ddydd Gwener. Ballet Cymru fydd testun pob sgwrs yn Ysgol Llanllyfni am beth amser i ddod.”

Peter Bridges

Athro yn Ysgol Gynradd Llanllyfni

arrowdown

dawnsipawb2

Astudiaeth Achos

Ail Breswylfa yn Ysgol Gynradd Llanfyllin
casestudyunderline

Ym mis Chwefror 2020, dychwelodd Ballet Cymru i Ysgol Gynradd Llanfyllin i weithio gyda’r holl blant o flwyddyn 1 i 6. Roedd y breswylfa ychydig yn wahanol, ac roeddem yn llawn cyffro pan ymunodd Artist Preswyl Ballet Cymru, Carl Chapple, â ni.

Comisiynodd Pontio artist i greu gwaith i’w arddangos yng nghyntedd y lleoliad. Roeddem mor lwcus eleni – gofynnodd Pontio i Ballet Cymru weithio gyda Carl a’r plant i greu darnau o gelf ar raddfa fawr, a hynny yn seiliedig ar gynhyrchiad nesaf Ballet Cymru, Giselle.

Bu’r plant yn cylchdroi o gwmpas y gweithdai celf a dawns, a chyfrannodd bawb waith celf, a ysbrydolwyd gan ddawnswyr Ballet Cymru yn symud ac yn cynnal eu safleoedd; cafodd y darnau eu trawsnewid wedyn yn ddarnau o gelf ar raddfa fawr.

Daeth yr wythnos i ben gyda pherfformiad o’r darnau dawns a grëwyd gan y plant, arddangosfa o’r gwaith celf, a chyflwyniad gan Mared Elliw Huws, Cydgysylltydd Datblygu’r Celfyddydau, a fu’n siarad am ‘BLAS’, sef rhaglen gyfranogol yn y celfyddydau ar gyfer pobl ifanc, dan arweiniad Pontio. Roedd 61 o aelodau teulu a gwesteion yn bresennol yn y sesiwn rhannu ac i weld yr arddangosfa ar ddiwedd yr wythnos, ac roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben.

Ymunodd Keren, sy’n Gydgysylltydd Dawns, â ni, yn ogystal â Maddie a Lauren, sy’n ymarferwyr dawns gyda Dawns I Bawb, ac rydym I gyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ysgol ar gyfer proses hyfforddi a dethol Duets er mwyn i’r Rhaglen Ysgoloriaeth ddechrau.

arrowdown1

dawnsipawb4dawnsipawb3

dawnsipawb5