Jukebox Collective

partnerunderlineyellow

Bu Ballet Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth a’r Swyddog Cyswllt â Theuluoedd yn ystod y broses ddethol ar gyfer y garfan newydd o Ysgolorion Duets, a fydd yn dechrau ar eu rhaglen hyfforddi dwy flynedd ym mis Medi 2019. Roedd y plant a ddewiswyd yn amlygu talent dawnsio, ac yn llawn ag egni a brwdfrydedd yn y sesiynau. Cred Ysgol Gynradd Moorland a Ballet Cymru y bydd Duets yn gyfle gwych ar gyfer y plant hyn, ac rydym yn llawn cyffro wrth feddwl am eu gweld yn meithrin eu techneg a’u sgiliau dawnsio yn ystod y tair blynedd nesaf.

Partneriaid:
Ysgol Gynradd Moorland a Theatr Glan yr Afon

Jukebox Collective yw’r partner mwyaf newydd i ymuno â Ballet Cymru a Rhaglen Genedlaethol Duets. Mae Jukebox Collective, sy’n arbenigo mewn dawnsio stryd, yn darparu’r sesiwn wythnosol ochr yn ochr â’r bale creadigol yn Ysgol Gynradd Moorland.

Mae gan Ballet Cymru saith mlynedd o hanes ag Ysgol Gynradd Moorland, sy’n ysgol mewn ardal o amddifadedd uchel. Mae’n ysgol amrywiol iawn. Mae yna 475 o blant ar y gofrestr, mae 40% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae 32 o ieithoedd yn cael eu siarad, gyda 50% o’r disgyblion yn cael eu dosbarthu’n lleiafrif ethnig, a 37% yn blant ag AAA.

“A minnau’n un o benaethiaid yr ysgolion cynradd lle mae nifer o’n disgyblion wedi elwa ar y dull arloesol hwn, ni allaf roi digon o ganmoliaeth i ymroddiad ac ymrwymiad staff y ddau gwmni. Mae wedi bod yn wych gweld y cynnydd y mae’r disgyblion a gymerodd ran wedi’i wneud, nid yn unig o ran eu sgiliau dawnsio, ond hefyd o ran meithrin eu hunanhyder a datblygu eu perfformiad academaidd.”

Jane Jenkins

Pennaeth, Ysgol Gynradd Moorland

quotesquiggleyellow

Ymunodd Aelodau Cwmni Ballet Cymru â’r Ysgolorion Duets yn un o’u sesiynau wythnosol. Dysgodd y Dawnswyr y symudiadau dawnsio stryd a addysgir gan Reuel a Jo-el o Jukebox Collective, ac aethant ati i addysgu ychydig o symudiadau codi a chydbwyso yn ystod y sesiwn bale creadigol dan arweiniad Louise. Cafodd pawb lawer o hwyl.

arrowdown

Astudiaeth Achos

Cwblhaodd disgyblion ysgol moorland eu tymor cyntaf â duets trwy rannu’r gwaith y maent wedi’i ddysgu â’u teuluoedd a’u ffrindiau.
partnerunderlineyellow1

jukeboxcollective6

“Roedd gweld y plant talentog hyn a’r athrawon yn perfformio â’r fath hyder a brwdfrydedd yn gwbl ryfeddol. Roedd cael y cyfle hwn yn fraint wirioneddol – y fath bleser i’r plant ac i’r rhieni – diolch yn fawr!”

Rhiant

“Diolch o galon am rannu eich gwaith – roeddem wrth ein boddau ag ef. Mae cael gweld yr hyn y mae fy mab yn ei gyflawni ac yn ei ddysgu â Duets yn wirioneddol wych. Roedd y plant i gyd yn edrych mor hyderus a hapus – roedd yn bleser eu gwylio. Diolch yn fawr am roi’r cyfle rhyfeddol hwn i’n plant ni.”

Rhiant

jukeboxcollective1

Roedd Ballet Cymru a Jukebox Collective yn benderfynol na fyddai Covid-19 yn ein hatal rhag cysylltu â’n myfyrwyr Ysgoloriaeth hyfryd.

Felly, gan sicrhau bod yr holl weithdrefnau diogelwch ar waith, ac ar ôl cael caniatâd gan yr ysgol a’n cyllidwyr, mae sesiwn ddawns wythnosol yn cael ei chynnal ar Zoom yn arbennig ar gyfer ein myfyrwyr Ysgoloriaeth. Mae gan y myfyrwyr raglen ddawns wych y tymor hwn, a hynny dan arweiniad Louise a Jo-el, ac mae’n anhygoel gweld y dawnswyr ifanc bob wythnos yn cael cyfle i ddal i fyny a pharhau i ddawnsio gyda’i gilydd.

arrowdown1

jukeboxcollective5jukeboxcollective4

jukeboxcollective2