Eleni

partnerunderlinered

Partneriaid:
Ysgol Ty Ffynnon and Theatr Clwyd

“Mae’r rhaglen Duets yn awyddus i dargedu plant na fyddent, fel arfer, yn cael mynediad at Ballet na chyfle i gymryd rhan ynddo, gan gynnig iddynt gyfle prin i ymddiddori yn y ffurf hon ar gelfyddyd, ac i wneud hynny yn amgylchedd eu hysgol, sy’n ddiogel, yn gyfarwydd ac yn gyfleus. Mae Ballet Cymru yn cyflwyno bale mewn ffordd sy’n gwahodd y cyfranogwyr i archwilio, darganfod, bod yn chwilfrydig ac ymchwilio i’r gelfyddyd. Mae Eleni yn falch mai un o nodweddion y rhaglen yw mai ymarferwyr Eleni a fydd yn gyfrifol am ddarparu’r rhaglen yn Sir y Fflint. Mae natur gydweithredol y rhaglen wedi bod yn amlwg oddi ar y rhaglen beilot. Bydd Eleni yn cael cyfle i feithrin partneriaeth gref â Ballet Cymru, a fydd yn gwella’r hyn y mae’r sefydliad yn ei gynnig yn yr ardal o ran dawns. Wrth weithio gyda grwpiau ymylol a heriol, sy’n cyd-fynd â rhaglen a mentrau ehangach Eleni, bydd ymarferwyr Eleni yn cael cyfle i ddarparu bale, yn ogystal ag i ehangu ei amrywiaeth o ddulliau.”

Angela Fessi

Cyfarwyddwr, Eleni

quotesquigglered

newsdance1

Roedd Ballet Cymru wedi gweithio’n agos gyda Eleni yn ystod y cam ‘Archwilio a Phrofi’. Cynhaliwyd preswylfa lwyddiannus yn Ysgol Tŷ Ffynnon, a roddodd gyfle i Ballet Cymru ddechrau sgwrs gyda Eleni a’r ysgol i drafod datblygiad rhaglen genedlaethol Duets a’r rhan y byddent yn ei chwarae.

Mae Ysgol Tŷ Ffynnon wedi’i lleoli mewn ardal o amddifadedd lle siaredir 17 o ieithoedd gwahanol, ac mae 25% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Gan fod hon yn ysgol newydd i Ballet Cymru, roedd yn gyfle i ni brofi’r cwricwlwm a’r dulliau addysgegol (gan felly gefnogi model newidiol newydd cwricwlwm Donaldson). Daeth dau ymarferydd dawns llawrydd, sy’n gweithio gyda Eleni, i ymuno â ni ar gyfer y breswylfa. Roeddent wedi cael gwahoddiad arbennig i fod yn bresennol gan y Cyfarwyddwr, gyda’r bwriad y byddent yn cyflwyno’r rhaglen Ysgolorion Duets reolaidd yn yr ysgol. Teimlai Ballet Cymru yn hyderus bod y seilwaith iawn ar waith i ganolbwyntio ar yr ysgol hon, a fyddai’r gyntaf i gynnal y rhaglen Ysgolorion Duets genedlaethol.

Pan gafwyd gwybod bod Ballet Cymru wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer y rhaglen genedlaethol dair blynedd, trefnwyd diwrnodau hyfforddi gydag ymarferwyr Eleni, a oedd wedi’u lleoli yn Ysgol Tŷ Ffynnon. Cyflwynwyd y pecyn cymorth Duets am y tro cyntaf, a chafodd hwn ei ‘brofi’ yn ystod yr hyfforddiant; roedd yn gweithio’n dda. Nid yw’r hyfforddiant yn canolbwyntio ar sgiliau addysgu yr ymarferwyr gan eu bod yn diwtoriaid dawns cymunedol profiadol; yn hytrach, mae’r ffocws ar y dull o gyflwyno a chynnwys y maes llafur bale creadigol, sy’n wahanol i feysydd llafur bale traddodiadol y mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn gyfarwydd â nhw.

Yn dilyn y diwrnodau hyfforddi, cynhaliwyd y broses ddethol, a chafodd 25 o blant talentog, a oedd yn amlygu tipyn o botensial ac yn bodloni meini prawf Duets, eu gwahodd i fod ar y rhaglen ysgoloriaeth ddwy flynedd. Bydd y plant yn cymryd rhan mewn sesiynau bale creadigol a Capoeira, a hynny bob wythnos.

Mae’r disgwyliad ynghylch y rhaglen a drafodwyd yn gyffrous iawn i ni fel ysgol, a bydd y plant a fydd yn elwa yn cael cipolwg newydd ar yr hyn y gallant ei gyflawni mewn gwirionedd wrth iddynt anelu’n uchel gyda dyheadau cadarnhaol. Mae ein hysgol yn darparu ar gyfer teuluoedd sydd wedi’u rhestru’n rhai sy’n byw mewn tlodi mewn ardal ddifreintiedig o Gymru a, heb ymyrraeth y rhaglen Duets, ni fyddai gan y plant hynny fawr ddim mynediad at fale, os o gwbl, na chyfle i gymryd rhan.”

Nia Goldsmith

Pennaeth Ysgol Tŷ Ffynnon

quotesquigglered1

“Ar y dechrau, roedd rhai o’r plant ychydig yn ansicr ynghylch y cynnig o ‘fale’, ond buan y daethant i ddeall bod yna lawer mwy i’r gair nag yr oeddent yn ei ddisgwyl i gychwyn. Roedd yr holl staff a gymerodd ran trwy gydol y breswylfa yn eithriadol o broffesiynol a chwrtais, ac yn gweithio’n dda iawn gyda’r plant, gan sicrhau bod y plant yn llwyddo. Roedd pawb yn llawn edmygedd o’r hyn a gyflawnwyd ganddynt mewn cyfnod byr, ac roedd eu perfformiad ar y diwrnod olaf yn wych. Rydym yn llawn cyffro wrth ystyried y gwaddol posibl y gallem ni, yr ysgol, ei gael o ganlyniad i’r breswylfa, ynghyd â’r berthynas gadarnhaol y gallem ei meithrin rhwng Ysgol Tŷ Ffynnon, Rhaglen Duets Ballet Cymru, a Eleni.

“Cyfle anhygoel ar gyfer y plant yn Ysgol Tŷ Ffynnon. Mae fy merch yn mwynhau pob sesiwn yn fawr. Diolch i chi am y cyfle hwn ac am yr holl ddrysau y gallai eu hagor, ac am yr hyder y mae hi wedi’i fagu o ganlyniad i’r profiad hwn.”

Rhiant

Cafodd yr Ysgolorion Duets a’u teuluoedd amser hyfryd yn Theatr Clwyd pan aeth Ballet Cymru ac Ysgol Tŷ Ffynnon ati i drefnu taith i wylio Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Ddinbych o Eleni yn perfformio darn codi’r llen, yn cael ei ddilyn gan y cwmni yn perfformio Romeo a Juliet– dyma’r tro cyntaf i rai o’r teuluoedd ymweld â’r theatr a hefyd wylio cynhyrchiad bale proffesiynol.

Roedd dawnswyr Ballet Cymru wedi ymweld â’r Ysgolorion Duets ac wedi ymuno yn eu sesiynau bale a Capoeiradan arweiniad Amanda a Hanna. Roedd yr Ysgolorion wedi mwynhau dysgu eu dilyniant Capoeirai ddawnswyr Ballet Cymru, gwylio arddangosiad gan y dawnswyr a chael eu codi i’r awyr!

“Mor falch o ba mor bell y mae’r plant wedi dod mewn cyn lleied o amser. Am gyfle rhagorol i bawb sy’n cymryd rhan.”

Rhiant

arrowdown

newdance4

Astudiaeth Achos

Cwblhaodd yr ysgolorion duets eu tymor dawns cyntaf gydag ychydig o fale a capoeira.
partnerunderlineorange

Roedd 54 o aelodau teuluoedd yn bresennol yn y sesiwn rannu ddiwedd tymor gan yr ysgolorion. Roedd y plant wedi gwneud gwaith anhygoel, ac maent wedi gwneud cynnydd mor dda yn ystod y tymor.

newdance2

Roedd Ballet Cymru a Eleni yn benderfynol na fyddai Covid-19 yn ein hatal rhag cysylltu â’n myfyrwyr Ysgoloriaeth hyfryd.

Felly, gan sicrhau bod yr holl weithdrefnau diogelwch ar waith, ac ar ôl cael caniatâd gan yr ysgol a’n cyllidwyr, mae sesiwn ddawns wythnosol yn cael ei chynnal ar Zoom yn arbennig ar gyfer ein myfyrwyr Ysgoloriaeth. Mae gan y myfyrwyr raglen ddawns wych y tymor hwn, a hynny dan arweiniad Amanda a Hanna, ac mae’n anhygoel gweld y dawnswyr ifanc bob wythnos yn cael cyfle i ddal i fyny a pharhau i ddawnsio gyda’i gilydd.

arrowdown1

newdance5newdance3

newdance6