Polisi Preifatrwydd a Thelerau Defnyddio Porth Duets

Mae Ballet Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Ni fyddwn yn anfon gwybodaeth atoch oni bai fod gennym eich cydsyniad, ac ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth a chwmnïau marchnata. Bydd Ballet Cymru bob amser yn prosesu'r holl ddata personol yn gyfreithlon, a hynny mewn modd teg a thryloyw.

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut yr ydym ni, y rheolwr data, yn casglu ac yn storio eich data, pam y mae arnom eu hangen, a'r hyn yr ydym yn ei wneud â'r data hynny. Isod gwelir datganiad am yr hyn yr ydym yn ei wneud i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'n Polisi Preifatrwydd, yr wybodaeth a gewch neu'r wybodaeth yr ydym yn ei phrosesu a'i storio, cysylltwch â'r Rheolwr Prosiect Duets Louise Prosser louiseprosser@welshballet.co.uk

Cynnwys

  1. Pwy ydym ni?
  2. Beth yw'r Porth Duets?
  3. Cod Ymarfer Ar-lein Ballet Cymru
  4. Pa wybodaeth y mae arnom ei hangen gennych?
  5. Sut y mae defnyddio Porth Duets?
  6. Sut y mae'r safle'n cael ei gadw'n ddiogel?
  7. Cydsyniad a Phreifatrwydd
  8. Cydsyniad y Cyfryngau
  9. Beth yw eich hawliau?
  10. Dyletswydd Gofal Ballet Cymru
  11. Ymwadiad
  12. Dolenni Defnyddiol
  13. Amodau a Thelerau Porth Duets

1. Pwy ydym ni?

Mae Ballet Cymru yn gwmni ballet proffesiynol ar gyfer Cymru, sydd yn ymrwymedig i gynhwysiant ac arloesedd ym maes dawns a ballet clasurol, ac i'r safon uchaf o gydweithio.

Mae rhaglen Mynediad ac Allgymorth helaeth Ballet Cymru yn ymrwymedig i chwalu'r rhwystrau sy'n atal mynediad at y celfyddydau.

Mae Ballet Cymru yn un o brif sefydliadau dawns Cymru, sy'n cael cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n elusen gofrestredig (rhif 1000855).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan www.welshballet.co.uk

Mae'r rhaglen Duets yn fenter a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn a Chyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Ballet Cymru, a hynny er mwyn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiol sefydliadau i ddatblygu gwell seilwaith ar gyfer darpariaeth ddawns yng Nghymru, creu gweithlu â chefnogaeth well, yn ogystal â darpariaeth fwy cyson i bobl ifanc ddatblygu gyrfaoedd mewn dawns.

2. Beth yw'r Porth Duets?

Mae'r Porth Duets wedi'i greu i alluogi'r Ysgolorion sy'n cymryd rhan yn y Rhaglen Duets i gyrchu adnoddau a deunydd dysgu ar-lein.

Mae Partneriaid Prosiect Duets, Ysgolion ac Ymarferwyr Dawns hefyd yn cyrchu'r Porth, a hynny er mwyn rhannu adnoddau a diweddariadau ar y rhaglen.

3. Cod Ymarfer Ar-lein Ballet Cymru

Nod Ballet Cymru yw diogelu'r holl gyfranogwyr, ond yn enwedig y plant, y bobl ifanc a’r oedolion agored i niwed sy'n ymgysylltu â gweithgareddau digidol Ballet Cymru. Er mwyn cyflawni hyn, bydd Ballet Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Parchu lles a diogelwch y cyfranogwr
  • Cyfathrebu, hysbysu ac ymgysylltu mewn modd cadarnhaol
  • Darparu cynnwys priodol a hygyrch, sy'n addas ar gyfer oedran a gallu'r cyfranogwr neu'r gwyliwyr
  • Sicrhau cyfrinachedd a lefelau preifatrwydd ar-lein, ynghyd â sicrhau cydsyniad pan fo angen
  • Ymgysylltu ag eraill ar-lein, gan ddefnyddio adnoddau cymwys a dibynadwy
  • Creu amgylchedd ar-lein diogel
  • Sicrhau bod dim goddefgarwch o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ar-lein ac unrhyw bryderon ynghylch cam-drin
  • Gweithio'n effeithiol gyda rhieni, gofalwyr, sefydliadau allanol a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau digidol proffesiynol a dulliau cyfathrebu ar-lein diogel y gellir ymddiried ynddynt.

4. Pa wybodaeth y mae arnom ei hangen gennych?

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018, caniateir i Ballet Cymru gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol cyn belled â bod gennym reswm dilys, cyfreithlon dros wneud hynny, a bod gennym eich cydsyniad i gaffael eich data personol yn gyfreithiol, a hynny at ddibenion y gweithgaredd penodol. Byddwn bob amser yn prosesu'r wybodaeth hon yn ddiogel.

Gall Ballet Cymru ofyn am ddata personol gan unigolion i alluogi defnyddwyr i ymgysylltu ar-lein. Rydym yn rhoi opsiynau ar wahân (haenedig) er mwyn eich galluogi i gydsynio ar wahân i ddibenion a mathau gwahanol o brosesu.

At ddibenion cyrchu'r wefan hon, gofynnwn am y manylion canlynol;

  1. Gan Gynrychiolydd yr Ysgol:
    1. Enw llawn y plentyn
    2. Manylion cyswllt Rhiant neu Ofalwr y Plentyn (os yw o dan 18 oed)
    3. Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu neu'r cynrychiolydd o bob Ysgol sy'n cymryd rhan yn y rhaglen
  2. Gan bartneriaid prosiect Duets:
    1. Enw llawn a chyfeiriad e-bost cysylltiadau perthnasol yn y sefydliad
  3. Gan ymarferwyr dawns Duets:
    1. Enw llawn a chyfeiriad e-bost

Ni fydd y manylion hyn yn cael eu cyhoeddi ar y porth, ac fe'u cedwir at ddiben penodol y Rhaglen Duets yn unig.

5. Sut y mae defnyddio Porth Duets?

Ar ôl i'r Rheolwr Prosiect gael eich manylion cyswllt perthnasol, fel y rhestrir uchod, byddwch yn cael dolen i borth Duets trwy e-bost. Cliciwch ar y ddolen i gael mynediad at dudalen hafan y porth. Darperir cyfrinair ar wahân, a bydd angen ei fewnosod ar dudalen y fewnrwyd. Ar ôl cwblhau hyn, dylech allu cyrchu porth Duets.

6. Sut y mae'r safle'n cael ei gadw'n ddiogel?

Yn ogystal â’r brif wefan sy’n wynebu’r cyhoedd, mae gwefan Duets hefyd yn cynnwys ‘Portal’ ar wahân, sy’n golygu nad yw ar gael at ddefnydd y cyhoedd ac mae’n gwbl breifat. Dim ond trwy ddolen ddiogel a chyfrinair, a gyhoeddir gan Reolwr Prosiect Duets, y gellir ei gyrchu.

7. Cydsyniad a Phreifatrwydd

Mae gan Ballet Cymru lefelau o ran hawliau mynediad i wefannau ar-lein sydd wedi diffinio'n glir. Mae Ballet Cymru yn defnyddio dyfeisiau diogel (wedi'u gwarchod gan gyfrinair) gyda'r meddalwedd diogelwch briodol wedi'i gosod arnynt.

Mae'r manylion mewngofnodi at ddefnydd penodol y wefan hon ac ni ddylid eu rhannu, eu hanfon ymlaen na'u datgelu i unrhyw un arall, oni bai fod hynny wedi'i awdurdodi gan Reolwr Prosiect Duets.

Ni ddylid rhannu, copïo na datgelu cynnwys y wefan i unrhyw un arall.

Gellir gwrthod mynediad i unrhyw un y canfyddir ei fod yn torri'r amodau hyn.

Bydd manylion mewngofnodi yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ac ar ôl cwblhau'r rhaglen.

Ni ddylai unrhyw unigolyn neu drydydd parti arall gyrchu Porth Duets oni bai ei fod wedi'i awdurdodi gan Ballet Cymru.

Mae rheolaethau diogelwch ar-lein yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd i gyfyngu ar risgiau.

Efallai y bydd Ballet Cymru am gysylltu â'r cyfranogwr (neu ei gynrychiolydd) a gofyn am gydsyniad i gael mynediad i'w fanylion cyswllt, a hynny at ddibenion cyfathrebu. Ni fydd y manylion hyn yn cael eu cylchredeg na'u cyhoeddi ar unrhyw adeg, a chânt eu dileu pan fydd y cyfranogwr yn cwblhau ei gwrs gweithgaredd gyda Ballet Cymru tra bydd yn cymryd rhan yn y rhaglen, yn ôl y gofyn.

Os yw cyfranogwyr o dan yr oedran swyddogol i gael eu cyfrif ar-lein eu hunain, bydd angen i staff Ballet Cymru gyfathrebu trwy gysylltu â'u rhieni neu eu gofalwyr. Mae canllawiau perthnasol ar gael ar-lein i helpu o ran sefydlu rheolyddion diogel i blant ar ddyfeisiau gartref https://www.internetmatters.org/parental-controls/

8. Cydsyniad y Cyfryngau

Gwneir cais ysgrifenedig am ganiatâd gan rieni neu ofalwyr, neu drwy gynrychiolwyr ysgolion, cyn cyhoeddi ffotograffau neu fideos o gyfranogwyr ar wefan Ballet Cymru, safle'r fewnrwyd, tudalennau'r cyfryngau cymdeithasol neu yng nghyhoeddiadau trydydd partïon, e.e. y wasg leol. Ni ddylid rhannu delweddau â chydsyniad i'w defnyddio ar-lein o dan unrhyw amgylchiadau heblaw at ddefnydd penodol ar wefannau swyddogol Ballet Cymru a thudalennau cyfryngau cymdeithasol.

9. Beth yw eich hawliau?

Mae Ballet Cymru yn ymdrechu i gydymffurfio â'r egwyddorion diogelu data cyfredol ac mae ganddo bolisi Diogelu Cwmni ar waith i sicrhau bod yr holl weithgareddau'n cydymffurfio. Mae gan blant yr un hawliau ag oedolion o ran eu data personol.

Er mwyn cydymffurfio â'r egwyddorion diogelu data, mae Ballet Cymru yn gofyn i unrhyw un o dan 18 oed gael cydsyniad eu rhiant neu warcheidwad cyn darparu unrhyw wybodaeth bersonol i Ballet Cymru. Heb y cydsyniad hwn, ni chaniateir i ddefnyddwyr roi eu gwybodaeth bersonol i ni.

O ran yr wybodaeth sydd gan Ballet Cymru, mae gan y defnyddiwr hawl i'w chyrchu, ei chywiro, ei dileu a'i chyfyngu. Mae gan y defnyddiwr hefyd yr hawl i wrthwynebu iddi gael ei phrosesu. Gall y defnyddiwr ofyn am fynediad i'r wybodaeth sydd gan Ballet Cymru amdano. Gall y defnyddiwr hefyd ofyn am gywiro, diwygio, neu ddileu unrhyw wybodaeth amdano sy'n anghywir. Gall y defnyddiwr arfer unrhyw un o'r hawliau hyn trwy gysylltu â'r Rheolwr Prosiect Duets.

10. Dyletswydd Gofal Ballet Cymru

Mae gan Ballet Cymru Ddyletswydd Gofal i ddefnyddwyr Porth Duets. Dim ond Rheolwyr Prosiectau Addysg Ballet Cymru a'r staff a awdurdodir gan Uwch-reolwyr Ballet Cymru sy’n cael cyfathrebu’n uniongyrchol â chyfranogwyr, rhieni neu sefydliadau allanol sy’n ymwneud â rhaglenni ar-lein Ballet Cymru.

Mae'n ddyletswydd ar staff a chynrychiolwyr Ballet Cymru i sicrhau bod yr holl ryngweithio ar-lein yn briodol ac yn berthnasol.

Bydd Ballet Cymru yn rhoi'r un flaenoriaeth i gadw cyfranogwyr yn ddiogel, waeth beth fo'u hoedran, hil, crefydd neu gred, rhyw, anabledd, ailbennu rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Bydd holl staff a chynrychiolwyr Ballet Cymru sy'n ymgysylltu â phobl ar-lein yn cael cyfarwyddyd a hyfforddiant clir ar ryngweithio â phobl yn ddigidol.

Gweithdrefnau Adrodd

Fel mater o flaenoriaeth, ac mewn ymgynghoriad â'r aelodau staff uchod, rhaid i Iechyd a Diogelwch uniongyrchol y plant gael blaenoriaeth.

Dylid rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol ar unwaith i Swyddogion Diogelu Dynodedig Ballet Cymru ar gyfer y Rhaglen Duets, a hynny er mwyn penderfynu a oes angen cymryd camau pellach:

Louise Prosser, Rheolwr y Prosiect Duets louiseprosser@welshballet.co.uk

Louise Lloyd, Y Swyddog Mynediad ac Allgymorth louiselloyd@welshballet.co.uk

Bydd Ballet Cymru yn delio’n briodol ac yn gyflym â negeseuon e-bost ffug, ‘Zoombomio’ ac unrhyw fygythiadau ar-lein eraill.

Ni oddefir seiberfwlio.

Gall camau gweithredu pellach gynnwys Uwch-reolwyr Ballet Cymru, sefydliadau partner, y gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau lleol a/neu'r heddlu.

11. Ymwadad

Mae Ballet Cymru yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfoes. Fodd bynnag, ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu anhwylustod a achosir wrth i unigolion ddibynnu ar ddeunydd anghywir a gynhwysir ar y wefan hon.

Mae Ballet Cymru yn cadw'r hawl i newid y datganiad preifatrwydd hwn, a bydd yn cyhoeddi polisi preifatrwydd diwygiedig sy'n adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan reoliadau cyfredol y DU, sydd i'w gweld ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth www.ico.org.uk

12. Dolenni Defnyddiol

Dylai defnyddwyr y wefan hon fod yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein i helpu i sefydlu rheolaethau a gosodiadau preifatrwydd priodol ar rwydweithiau, cyfarpar a dyfeisiau i ddarparu profiad ar-lein mwy diogel.

Cefnogir Rhaglen Duets Ballet Cymru gan:

13. Amodau a Thelerau Porth Duets

Mae'r telerau ac amodau hyn yn nodi sut y byddwn ni, Ballet Cymru yn darparu'r Gwasanaethau i chi.

Mae Ballet Cymru yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Rhif cwmni: 02535169; rhif elusen gofrestredig: 1000855

Mae ein swyddfa gofrestredig wedi'i lleoli yn: Ballet Cymru, 1 Ystad Fasnachu y Wern, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9FQ

Hawlfraint

Mae'r wefan hon a'i chynnwys dan hawlfraint Ballet Cymru, a chedwir pob hawl. Gwaherddir atgynhyrchu'r holl gynnwys neu unrhyw ran ohono ar unrhyw ffurf. Ni chaniateir dosbarthu na chopïo unrhyw ran o'r wefan hon at ddibenion masnachol heb gymeradwyaeth benodol. Dylid cydnabod unrhyw ddeunydd trydydd parti a ddefnyddir mewn cynnwys ar-lein, a chydymffurfio â hawlfraint.

Diogelwch

Rydym yn ymdrechu i gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, ond ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei datgelu ar-lein. Rydych yn derbyn y risgiau diogelwch cynhenid o ddarparu'r wybodaeth dros y Rhyngrwyd, ac ni fyddwch yn dal Ballet Cymru yn gyfrifol am unrhyw achos o danseilio diogelwch, oni bai fod hyn yn deillio o esgeulustod neu ddiffyg bwriadol ar ran Ballet Cymru.

Logos

Ni chaniateir defnyddio logos Duets, logos Ballet Cymru, nac unrhyw logos trydydd parti a gyrchir trwy'r wefan hon.

Hawlfraint y cyfryngau ar y wefan hon

Mae gan Ballet Cymru hawlfraint ar y delweddau a'r cyfryngau ar y wefan hon, oni nodir yn wahanol.

Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ddelweddau eraill ar y wefan hon mewn unrhyw fformat ac eithrio ar gyfer sylwadau teg oni bai fod Ballet Cymru yn rhoi caniatâd.

Gwefannau cysylltiedig

Bwriedir i rai o'r dolenni ar y wefan hon fynd â chi i wefannau eraill. Darperir y rhain er hwylustod i chi, ac nid yw cynnwys unrhyw ddolen yn awgrymu bod Ballet Cymru yn cymeradwyo neu'n cefnogi'r wefan gysylltiedig, ei gweithredwr na'i chynnwys. Yn ogystal, nid ydym yn cymeradwyo nac yn rheoli polisïau nac arferion unrhyw rwydwaith cymdeithasol trydydd parti y gallwch gyrchu trwy ein gwefan neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r safleoedd y mae dolenni iddynt o'r porth Duets yn bresennol yn unig oherwydd eu bod, o bosibl, yn cynnwys atchwanegiadau defnyddiol i'r data a gyhoeddwn. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn darllen unrhyw delerau ac amodau a pholisïau sy'n berthnasol i wefannau trydydd parti o'r fath.

Gwarchod rhag firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio'r deunydd a gyhoeddir ar y wefan hon. Rydym yn argymell eich bod yn rhedeg rhaglen gwrthfeirysau ar yr holl ddeunydd a lawrlwythir o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod neu ymyrraeth â’ch data neu'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.

Gwybodaeth Diogelu Data

Bydd Ballet Cymru yn prosesu'r data a ddarperir gennych at ddibenion y Rhaglen Duets yn unol â chyfreithiau Diogelu Data. Gallwn ddatgelu'r data hyn i unrhyw unigolyn neu sefydliad at y dibenion y cawsant eu casglu ar eu cyfer, neu lle mae Deddf Diogelu Data 2018 yn caniatáu hynny. Ni fyddwn yn anfon ymlaen gwybodaeth sy'n ymwneud â chi, yn destun data, at unrhyw drydydd parti digyswllt.