Impelo

partnerunderlinemagenta

Partneriaid:
Ysgol Gynradd y Trallwng, Ysgol y Cribarth a Hafren, Theatr Brycheiniog

impelo1

‘Yn Impelo, mae ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes yn ymestyn y tu hwnt i’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw, ac mae’n cynnwys ein tîm o weithwyr cyflogedig a gweithwyr llawrydd. Mae’r DPP sy’n cael ei gynnig trwy Duets yn fuddsoddiad yn y broses o ddatblygu sgiliau ein hymarferwyr dawns, ac rydym yn hyderus y bydd yn cyfoethogi eu harfer, ynghyd ag ansawdd yr hyn yr ydym yn ei gynnig.

Mae Duets yn wahanol i’r sesiynau wythnosol yr ydym yn eu cynnal. Rydym yn cynnig dosbarthiadau galw heibio wythnosol mewn dawnsio creadigol/cyfoes, sy’n agored i bawb, a hynny mewn nifer bach o leoliadau ym Mhowys, gyda phwyslais ar agweddau hwyliog a chymdeithasol cymryd rhan. Trwy fynd ati i chwilio am dalent dawnsio ifanc, mae Duets yn cynnig rhaglen fwy dwys a thechnegol. Rydym yn cydnabod bod yna fwlch yn y llwybrau dilyniant ar hyn o bryd rhwng ein dosbarthiadau arferol ac ymgymryd â hyfforddiant dawnsio llawn-amser.

Bydd Duets yn ein galluogi i weld cynnig gwahanol ar waith, a allai’n rhwydd lywio’r gwaith o ddatblygu llwybrau dilyniant yn y dyfodol. Gall Duets ein helpu i gyrraedd y dawnswyr a’r lleoedd hynny ym Mhowys nad ydym yn eu cyrraedd ar hyn o bryd.

Rydym yn hyderus y bydd cylch gwaith cenedlaethol y rhaglen yn sicrhau rhwydwaith cefnogol a pherthnasoedd dyfnach â chyd-weithwyr yn y sector ledled Cymru. Gobeithiwn fod y prosiect yn gyfle i amlygu buddion cymryd rhan mewn gweithgarwch dawnsio i gynulleidfa genedlaethol, yn ogystal â thynnu sylw at y gwaith gwych sy’n mynd rhagddo ledled y wlad. Rydym yn sicr y bydd gwybod eu bod yn rhan o raglen genedlaethol yn ennyn balchder a dyhead yn yr ysgolorion!’

Amanda Griffkin

Cyfarwyddwr, Impelo

quotesquigglemagenta

arrowdown

Astudiaeth Achos

Ballet Cymru Ac Ysgol Gynradd Y Trallwng
partnerunderlinemagenta1

Cafodd Ballet Cymru amser hyfryd yn arwain preswylfa wythnos o hyd yn Ysgol Gynradd y Trallwng. Buom yn gweithio gyda 90 o ddisgyblion yn ystod yr wythnos, ac ymrwymodd 27 o blant i greu perfformiad codi’r llen cyflym a chyffrous, i’w berfformio yn Hafren cyn y perfformiad proffesiynol o Romeo a Julietgan Ballet Cymru.

Aeth Louise Lloyd, y Swyddog Allgymorth ac Addysg, a dawnswyr cyn-broffesiynol Ballet Cymru ati i greu perfformiad codi’r llen a gafodd ei rannu â gweddill yr ysgol.

impelo2

Cyn y perfformiad, cyfarfu’r plant â dawnswyr y cwmni, a chawsant sgwrsio am y cymeriadau yr oeddent yn eu chwarae yn y perfformiad o Romeo a Juliet.

Un o’r uchafbwyntiau yr wythnos hon oed Robbie ‘Mawr’ o Ballet Cymru yn cwrdd â Robbie ‘Bach’ o Ysgol Gynradd y Trallwng!

Ysgol Gynradd y Trallwng yn perfformio eu codwr llenni yn Hafren cyn i Ballet Cymru berfformio ‘Romeo A Juliet’

impelo5impelo3

impelo4