Ballet Cymru

partnerunderlineorange

Ballet Cymru

“Rwy’n credu y bydd ein disgyblion yn cael budd o gymryd rhan yn y rhaglen Duets, ac yn meithrin nid yn unig sgiliau dawnsio, ond hefyd eu sgiliau cydsymud, gwrando a chyfathrebu, yn ogystal â’u gallu i gydweithredu. Gallai cyfranogiad y disgyblion yn y rhaglen ysgogi ein disgyblion a’u llenwi â brwdfrydedd ac, yn ei dro, wneud gwahaniaeth i’r plant o ran gwella eu presenoldeb. Gall y cyfleoedd cyfoethogi hyn, yn llythrennol, newid bywydau’r disgyblion, a byddem wrth ein bodd yn gallu ymuno â’r rhaglen hon a meithrin partneriaeth â Ballet Cymru.”

Andrew Sheppard

Pennaeth Gweithredol, Ysgol Gynradd Pillgwenlli

quotesquiggleorange

Partneriaid:
Ysgol Gynradd Pillgwenlli, Canolfan Celfyddydau Glan yr Afon, Ysgol Gynradd Sommerton, Ysgol Gynradd Eveswell

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli wedi gweithio gyda Ballet Cymru yn y gorffennol, ac mae ganddi hefyd berthynas dda â Theatr Glan yr Afon.

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli wedi gweithio gyda Ballet Cymru yn y gorffennol, ac mae ganddi hefyd berthynas dda â Theatr Glan yr Afon. Mae gan yr ysgol nifer mawr o ddisgyblion gyda llawer o gefndiroedd gwahanol. Bydd Duets yn ymgysylltu â’r plant hyn bob wythnos, gan ddarparu sesiynau bale a dawnsio cyfoes ac, yn dilyn sgyrsiau â’r Swyddog Addysg ac Allgymorth yn Theatr Glan yr Afon, bydd cyfleoedd ychwanegol yn cael eu trefnu i’r Ysgolorion Duets ymgysylltu â’r Theatr.

Fel yn achos pob rhaglen Ysgoloriaeth Duets ledled Cymru, mae hyn yn fwy na dim ond darparu sesiwn ddawns wythnosol ar gyfer y plant – trwy ymgysylltu â theatr bartner, bydd y plant yn dod i gysylltiad â chyfoeth o wybodaeth sy’n seiliedig ar y Diwydiannau Creadigol.

Cafodd yr Ysgolorion Duets gwmni rhai o Aelodau Cwmni Ballet Cymru, a ymunodd yn y sesiynau dawnsio bale a chyfoes. Roeddem hefyd wedi croesawu athrawon o ysgolion yng Ngwlad Pwyl, Gwlad Groeg, Latfia a Gwlad yr Iâ, a oedd yn ymweld ag Ysgol Gynradd Pillgwenlli i siarad am iechyd a llesiant, a sicrhau bod plant yn cadw’n weithgar. Mae Rhaglen Ysgoloriaeth Duets, a hithau’n rhaglen wythnosol, yn enghraifft berffaith o hyn.

Mae’r Ysgolorion yn gweithio’n galed gyda Charlotte a Louise i berffeithio eu techneg ddawnsio. Maent yn dysgu am yr hyn sy’n debyg rhwng arddulliau dawnsio bale a chyfoes, ac am y termau technegol perthnasol.

arrowdown

pillgwenllyprimary3pillgwenllyprimary4

pillgwenllyprimary2

pillgwenllyprimary1