topimage

Rhaglen Genedlaethol i bobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig i gael mynediad at hyfforddiant a dilyniant dawns.

Ballet Cymru

Rhaglen Genedlaethol Duets

Yn dilyn y cam ‘Archwilio a Phrofi’ yn 2017-2018, roedd Ballet Cymru wedi cyflwyno’r strwythur Duets newydd i Sefydliad Paul Hamlyn ac i Gyngor Celfyddydau Cymru, a llwyddodd i sicrhau rhagor o gyllid ar gyfer Rhaglen Hyfforddi Dawns Genedlaethol Duets dair blynedd o hyd, sy’n galluogi pobl ifanc i gael mynediad at hyfforddiant bale o safon uchel ledled y wlad, ni waeth beth yw eu hamgylchiadau economaidd, cymdeithasol na daearyddol.

Myfyrwyr Duets, mewngofnodi i'r porth ar-lein i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf, cynlluniau gwersi, fideos a mwy…

Mewngofnodi

Bydd Duets yn cael ei ymgorffori yn rhaglen pob sefydliad dawns cymunedol. Nid prosiect ‘untro’ yw Duets, sy’n ‘parasiwtio’ i mewn i gymuned, ond rhaglen sydd â buddsoddiad a datblygiad go iawn yn perthyn iddi. Mae pob partner wrth ei fodd yn bod yn rhan o berthynas hirdymor â Ballet Cymru, a fydd hefyd yn cynyddu cyfranogiad mewn bale yn ei ardal ei hun wrth iddo uwchsgilio ei weithlu ei hun ar yr un pryd.

Ynglŷn â'r rhaglen

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio’n arbennig i nodi talent, darparu llwybrau dilyniant, a gwella dyhead ar gyfer pobl ifanc na fyddai fel arfer yn cael cyfle i ymwneud â dawns, yn enwedig y rheiny sy’n byw yn ardaloedd difreintiedig Cymru.

Bydd Duets yn gweithio mewn partneriaeth â:

6 Theatr:

Theatr y Torch
(Gorllewin Cymru)

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio
(Gogledd-orllewin Cymru)

Hafren
(Canolbarth Cymru)

Canolfan Celfyddydau Glan yr Afon
(De Cymru)

Theatr Clwyd
(Gogledd-ddwyrain Cymru)

Theatr Brycheiniog
(Canolbarth Cymru)

9 Ysgol Gynradd:

Ysgol Gynradd Gelliswick
(Gorllewin Cymru)

Ysgol Gynradd Llanllyfni
(Gogledd-orllewin Cymru)

Ysgol Gynradd y Trallwng
(Canolbarth Cymru)

Ysgol Gynradd Moorland
(Caerdydd, De Cymru)

Ysgol Gynradd Pillgwenlli
(Casnewydd, De Cymru)

Ysgol Gynradd Eveswell
(Casnewydd, De Cymru)

Ysgol Gynradd Somerton
(Casnewydd, De Cymru)

Ysgol Tŷ Ffynnon
(Gogledd-ddwyrain Cymru)

Ysgol y Cribarth
(Canolbarth Wales)

5 Sefydliad Dawns Cymunedol:

Arts Care Gofal Celf
(Gorllewin Cymru)

Dawns i Bawb
(Gogledd-orllewin Cymru)

Impelo
(Canolbarth Cymru)

Jukebox Collective
(De Cymru)

Eleni
(Gogledd-ddwyrain Cymru)

Bydd y rhaglen Duets dair blynedd yn cynnwys preswylfeydd dawns, diwrnodau hyfforddi ar gyfer ymarferwyr dawns profiadol, rhaglenni ysgoloriaeth, a chyfleoedd perfformio ledled Cymru gyda phob partner.

Gwerthuso a Monitro’r Rhaglen Duets

Bydd Dr. Susanne Burns yn parhau â thaith Duets ac yn cefnogi Ballet Cymru o ran gwerthuso a monitro’r rhaglen. Mae rôl Susanne yn elfen bwysig o’r rhaglen; mae ei harbenigedd gwerthuso a’i gwybodaeth am Duets yn amhrisiadwy wrth i’r rhaglen gael ei chyflwyno ledled Cymru, a hithau ‘nawr yn cynnwys llawer mwy o bartneriaid.

Mae fframwaith gwerthuso wedi cael ei ddatblygu ar gyfer Rhaglen Genedlaethol Duets, a bydd hwn yn cynorthwyo Ballet Cymru a phob partner i gasglu tystiolaeth a sicrhau na fydd ethos na nodau Duets yn cael eu colli yn ystod oes y rhaglen.

Bydd y broses werthuso yn cael ei hymgorffori yn y rhaglen o’r dechrau, ac mae pob partner yn ymwybodol o berthnasedd a phwysigrwydd dadansoddi’r data a gesglir er mwyn helpu i adeiladu darlun o’r effaith a fydd, yn ei dro, yn helpu i gynnal y rhaglen y tu hwnt i dair blynedd.

“Mae yna ddealltwriaeth ddyfnach o’r modd y byddai Duets yn ategu’r seilwaith ddawns bresennol yng Nghymru, gan ddarparu llwybrau dilyniant ar gyfer pobl ifanc ym myd bale, dealltwriaeth gyfoethocach a dyfnach o’r modd y gellir meithrin y partneriaethau a fydd yn ofynnol i gefnogi’r ddarpariaeth ledled Cymru, a dealltwriaeth ddyfnach o’r goblygiadau o ran datblygu’r gweithlu er mwyn cyflwyno’r rhaglen yn genedlaethol.”

Dr. Susanne Burns

Ar ddechrau’r rhaglen, cytunwyd ar ‘linell sylfaen’ â phob sefydliad dawns cymunedol, a hynny fel ffordd o fesur effaith y rhaglen trwy gydol y tair blynedd, a threfnir ‘diwrnod rhannu’, a hwylusir gan y Gwerthuswr Allanol, a fydd yn rhoi cyfle i’r pum sefydliad dawns cymunedol drafod, rhannu a theimlo eu bod yn rhan o raglen ar gyfer Cymru gyfan.

Bydd Ballet Cymru yn gweithio’n agos gyda phob un o’r pum theatr yn ardal rhaglen Ysgoloriaeth Duets er mwyn annog a chefnogi’r gwaith o feithrin y berthynas rhwng Duets, y sefydliadau dawns cymunedol a’r ysgolion cynradd. Bydd Balet Cymru yn monitro maint y cynulleidfaoedd ac yn mesur y canlyniadau a’r effaith yn unol â rhaglen Duets.

Rydym yn gweithio gyda:

Ballet CymruImpeloJukebox CollectiveDanws i BawbArts Care Gofal CelfLottery FundedPaul Hamlyn FoundationSponsored by Welsh GovernmentArts Council of Wales